Mae dyn o’r Wyddgrug wedi pledio’n euog i lofruddio dynes yn gynharach eleni.

Cafwyd hyd i gorff Karen Catherall, 45 oed, yn ei chartref yn Gwernymynydd, ger yr Wyddgrug ym mis Medi

Roedd archwiliad post mortem wedi dangos bod ganddi anafiadau i’w phen a’i bod wedi cael ei thagu.

Fe wnaeth Darren John Jeffreys, 47, o Bwll Glas, yr Wyddgrug, bledio’n euog i’w llofrudddiaeth mewn gwrandawiad yn Llys y Goron yr Wyddgrug heddiw

Bydd Darren John Jeffreys,yn cael ei ddedfrydu ym mis Chwefror.