Mae Comisiynydd Plant Cymru wedi canfod fod hanner y plant ieuengaf mewn ysgolion cynradd yn dal i deimlo’n llwglyd hyd yn oed ar ôl iddyn nhw gael eu cinio ysgol.

Hefyd fe ddaeth i’r amlwg mewn arolwg bod gymaint â 70% o blant rhwng 9-11 oed yn teimlo’n llwglyd ar ôl cinio.

Cafodd dros 1,000 o ddisgyblion cynradd ac uwchradd eu holi dros y We ynglŷn â’r prydau bwyd maen nhw’n bwyta yn yr ysgol.

Dywedodd 27% o blant 5-8 oed eu bod yn dal i deimlo’n llwglyd ar ôl cinio, a 27% arall eu bod nhw teimlo’n llwglyd o dro i dro. Yn y categori 9-11 oed, dywedodd 29% eu bod yn dal i deimlo fel eu bod eisiau bwyd, a 41% bod hynny’n wir ar adegau.

Roedd bron i 40% o’r plant yn anhapus nad oedden nhw’n cael mwy o fwyd os oedden nhw’n gofyn amdano.

‘Rhywbeth o’i le gyda’r system’

“Yn amlwg, mae rhywbeth o’i le gyda’r system os oes rhai o’n disgyblion yn teimlo’n llwglyd ar ôl cael cinio ysgol,” meddai Keith Towler.

“I lawer o’r plant hyn – oherwydd eu cefndir economaidd-gymdeithasol – dyma’r unig bryd poeth fyddan nhw’n ei gael mewn diwrnod.”

Yn ymateb i’r arolwg, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Fe ddylai cinio ysgol ddarparu 30% o’r egni sydd ei angen ar gyfartaledd ar ddisgyblion.

“Mae yna ddyletswydd gyfreithiol ar ysgolion ac awdurdodau lleol i gyd-fynd a’r canllawiau statudol, sy’n awgrymu maint prydau.”

Sail

Fe wnaeth y Comisiynydd, Keith Towler, ymchwilio wedi i atebion arolwg y llynedd ddangos nad yw nifer o ysgolion bellach yn rhoi mwy o fwyd i blant ar ôl iddyn nhw orffen eu pryd cyntaf.