Capel Ebeneser yng Nghaerdydd
Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi rhoi dros £1 miliwn ar gyfer atgyweirio capel yng nghanol Caerdydd a’i droi yn ganolfan fyddai’n cyflogi o leiaf chwech o bobol.

Bwriad y swyddogion sy’n gweithio ar gynllun ‘Cornerstone’ yw adfywio Capel Ebeneser, a sicrhau bod yr adeilad rhestredig Gradd II o 1835, sydd ar hyn o bryd yn wag, yn cael ei drawsnewid i fan cyfarfod cymunedol.

Ar ei newydd wedd, fe fydd yr adeilad hefyd yn ganolfan ar gyfer treftadaeth a digwyddiadau lleol, yn cynnig cyfleusterau ar gyfer cynadleddau ac yn cynnwys caffi newydd sbon fyddai’n cyflogi chwech o bobol.

Yn ogystal mae sefydliad partner y prosiect, y sefydliad ar gyfer y deillion RNIB Cymru, am ddarparu swyddi a chyfleoedd hyfforddi ar gyfer pobol ddall yno.

Y safle

Dywedodd Jennifer Stewart, Pennaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru bod y prosiect hwn yn “arwyddocaol”:

“Dyma brosiect arwyddocaol a fydd yn atgyfodi adeilad gwag a’i wneud yn rhan ganolog o’r gymuned leol.”

Ychwanegodd Cyfarwyddwr RNIB Cymru, Ceri Jackson: “Fe fydd y capel yn cynnig cyfle unigryw i bobol ddall fwynhau gweithgareddau nad ydyn nhw’n gallu cymryd rhan ynddynt fel arfer.

“Ein bwriad yw adeiladu gardd synhwyraidd a gweithio mewn partneriaeth i gynnig hyfforddiant a phrentisiaethau ar y safle.”

Yn 1976 cafodd y capel ei fabwysiadwyd gan gynulleidfa Gymreig ac fe wnaeth chwarae rhan bwysig yn nhreftadaeth grefyddol Caerdydd.