Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi rhoi’r bai ar Lywodraeth Cymru ar ôl i ffigyrau heddiw ddangos bod diweithdra yng Nghymru wedi codi o 6.6% i 7.1%.

Dangosodd ffigyrau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) bod 8,000 yn fwy o bobl yng Nghymru yn ddi-waith o’i gymharu â thri mis yn ôl – er bod y niferoedd wedi cwympo ar draws gweddill Prydain yn yr un cyfnod.

Ac yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol, mae hynny’n dystiolaeth nad yw polisïau Bae Caerdydd ar yr economi yn gweithio.

Ond dywed Llywodraeth Cymru bod diweithdra yng Nghymru yn is na’r adeg yma llynedd, a bod eu polisïau yn “gwneud gwahaniaeth, gan gefnogi swyddi a thwf ar draws Cymru.”

Beio Llafur

Wrth ymateb i’r ffigyrau heddiw, fe ddywedodd llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn y Cynulliad ar yr economi fod y darlun yn waeth yng Nghymru na rhannau eraill o Brydain.

Fe bwysleisiodd Eluned Parrott fod y gyfradd diweithdra wedi cwympo o’i gymharu â’r adeg yma’r llynedd, er ei fod wedi codi yn y tri mis diwethaf.

“Rydyn ni wedi gweld ac yn parhau i weld diweithdra yng Nghymru yn cwympo, ac rydyn ni’n croesawu hynny,” meddai Eluned Parrott.

“Ond mae gennym ni’r gyfradd twf arafaf ym Mhrydain i gyd, o’i gymharu â blwyddyn yn ôl.

“Mae’n rhaid i ni ganfod pam bod y gyfradd diweithdra yn cwympo chwe gwaith yn gynt yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr, a phedair gwaith yn gynt yn yr Alban er enghraifft.

“Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ailddyblu ei hymdrech i geisio lleihau diweithdra yng Nghymru, yn enwedig i’r rheiny sydd yn ddi-waith ers sbel.

“Dyw’r camau ymlaen sydd yn cael eu gwneud yng ngweddill Prydain ddim yn cael eu hefelychu yma yng Nghymru, diolch i ddegawd o reolaeth economaidd sâl gan Lywodraeth Llafur Cymru.”

‘Cefnogi swyddi a thwf’

Wrth ymateb i’r ffigyrau’r bore yma, fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod rhywfaint o newyddion da wedi dod o’r ystadegau diweddar.

“Mae diweithdra yng Nghymru yn is na’r adeg yma llynedd, ac mae diweithdra ymysg pobl ifanc yn cwympo yn gynt yng Nghymru na gweddill Prydain,” meddai’r llefarydd.

“Mae cyflogaeth yng Nghymru yn parhau yn uwch na’i chyfartaledd hanesyddol, ac mae’r nifer sydd yn hawlio budd-daliadau gwaith ar ei gyfradd isaf ers 2008.

“Pan rydych chi’n ystyried ffigyrau fel hyn ochr yn ochr ag arwyddion eraill yn yr economi, fel cynnydd sylweddol yn y GVA i bob person a mwy o fuddsoddiad mewnol nag erioed, mae’n amlwg bod ein polisïau yn gwneud gwahaniaeth, gan gefnogi swyddi a thwf ar draws Cymru.”

‘Rhagor i’w wneud’

Yn gynharach fe fynnodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Stephen Crabb fod y ffigyrau cyffredinol yn dangos bod Llywodraeth San Steffan ar y trywydd iawn wrth fynd i’r afael a’r economi.

Ond fe gyfaddefodd bod ffigyrau heddiw yn rhybudd bod rhagor i’w wneud eto.

“Er bod diweithdra wedi cynyddu yn y tri mis diwethaf, mae’r trend cyffredinol yn bositif ac mae economi Cymru yn tyfu,” meddai Stephen Crabb.

“Rydyn ni’n creu’r amodau tymor hir cywir er mwyn hybu twf yn yr economi ond rydyn ni’n gwybod ein bod ni’n wynebu heriau sylweddol a bod rhagor i’w wneud.

“Dyna pam rydw i’n benderfynol ein bod ni’n glynu gyda’r cynllun tymor hir o dwf er mwyn sicrhau cynnydd mewn safonau byw, cryfhau’r economi a sicrhau dyfodol ariannol mwy sefydlog i bobl sydd yn gweithio’n galed ar hyd a lled Cymru.”

‘Angen esboniad’

Mae Plaid Cymru wedi galw ar y Llywodraeth i esbonio’r sefyllfa a’r “newid syfrdanol” yn y ffigyrau gwaith i drigolion y wlad:

“Mae’r ffigyrau diweddaraf yn awgrymu tro sydyn a negyddol yn ein ffawd economaidd,” meddai llefarydd y blaid ar yr economi, Rhun ap Iorwerth.

“Yn 2013, cafodd 75,000 o swyddi newydd eu creu ond yn 2014 mae’n ymddangos fel ein bod wedi colli 41,000 o swyddi.

“Mae angen i Lywodraeth Cymru a Phrydain esbonio’r newid syfrdanol hwn yn ein ffigyrau gwaith.”