Mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi mai corff dyn o Fietnam gafodd ei ddarganfod ar dir comin ger Cwrs Golff Whitehall yn Abercynon, Rhondda Cynon Taf.

Daethpwyd o hyd i gorff Tinh Van Tran, 41, gan aelod o’r cyhoedd tua saith o’r gloch nos Fawrth.

Dywedodd yr heddlu fod y dyn 5’5’’ yn gwisgo siaced ddu drwchus, trowsus tracsiwt llwyd, trainers Adidas gwyn a sgarff siec frown a du pan gafodd ei ddarganfod.

Fe benderfynodd yr heddlu ddatgelu gwybodaeth am y dyn cyn i’w berthnasau agosaf gael gwybod am y farwolaeth, yn y gobaith o annog y cyhoedd i roi gwybod iddyn nhw am unrhyw wybodaeth ynglŷn â’r digwyddiad.

Cafodd apêl ei chyhoeddi ddoe, er mwyn dod o hyd i yrwyr pedwar o gerbydau oedd yn yr ardal ar adeg y farwolaeth –  dwy fan wen a choch, car Fiat a fan Volkswagen Transporter.

Bydd mwy o brofion yn cael eu cynnal er mwyn canfod union achos y farwolaeth.

Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â’r heddlu ar 02920 571 530.