Syr Wynff a Plwmsan (Mici Plwm ar y dde)
Mae un o ddeuawd chwedlonol Syr Wynff a Plwmsan wedi bod yn hel atgofion am ei ddyddiau’n protestio dros sefydlu S4C nôl yn y 1970au.

Roedd Mici Plwm yn aelod gweithgar o Gymdeithas yr Iaith ar y pryd ac yn fodlon torri’r gyfraith er mwyn tynnu sylw at yr angen i gael Sianel Gymraeg.

Yn dilyn sefydlu’r sianel yn 1982 daeth Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan yn raglen gomedi slapstic boblogaidd iawn, ond cyn hynny roedd Mici Plwm wedi cael ei hun mewn sefyllfaoedd nad oedd yn destu chwerthin.

Ar raglen Wales In the Seventies nos Lun mi fydd yn dwyn i gof ei ddyddiau dringo mastiau.

“Y syniad oedd i darfu ar ddarlledu i mewn i Gymru gan Granada a fi gafodd fy newis i ddringo’r mast yn Llanddona ar Ynys Môn” meddai Mici Plwm.

“Roeddwn i’n hollol ymwybodol, fel trydanwr, o’r peryg; roeddwn i’n ofnus iawn – yn cachu’n hun a deud y gwir achos roedd gen i ddigon o synnwyr cyffredin i sylweddoli ei fod o’n beth peryglus iawn a miloedd o volts fyddai’n gallu fy llosgi yn ulw.

“Yn y diwedd, fe ddaeth yr Heddlu, oeddat ti’n medru gweld nhw’n dod o filltiroedd i ffwrdd – y golau glas yn dod o bob cyfeiriad – mae rhywun wedi meddiannu mast y Llywodraeth Brydeinig ac maen nhw’n tarfu ar y darlledu, mae’n gynllwyn yn erbyn y Goron – trosedd sy’n haeddu dim llai na chosb o grogi!  Fe wnaethom gyflawni yr hyn roeddem am ei wneud – amharu ar ddarlledu rhaglenni Saesneg i mewn i Gymru ac roeddent yn dod trwy’r mastiau yma. Dyna blannu’r hadau cyntaf i ddechrau’r ymgyrch am sianel annibynnol i Gymru sef S4C.”

Wales In The Seventies – nos Lun am 10.35 ar BBC One Wales