Traffordd yr M4
Fe fydd adolygiad barnwrol i gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer ymestyn yr M4 yn cael ei gynnal fis Mawrth nesaf.
Cyfeillion y Ddaear Cymru sy’n gwrthwynebu’r cynlluniau presennol ac fe fydd y gwrandawiad yn dechrau yng Nghaerdydd ar Fawrth 10.
Maen nhw’n gwrthwynebu’r penderfyniad i godi traffordd yng Ngwent oherwydd pryderon am fyd natur ac ardal gadwraeth ger afon Wysg.
‘Niwed amgylcheddol’
Dywed Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru, Gareth Clubb fod gan Lywodraeth Cymru “ddyletswydd i ddiogelu’r safleoedd hyn, ac i edrych yn ofalus ar opsiynau amgenach na’u dinistrio”.
Maen nhw’n mynnu nad yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried eu cynlluniau’n ddigon gofalus, sydd yn debygol o arwain at “niwed amgylcheddol hollol ddiangen” sy’n mynd i gostio mwy nag £1 biliwn.
Ychwanegodd Gareth Clubb: “Mae pobol Cymru’n haeddu dadl synhwyrol a deallus ynghylch y fath gynllun pwysig a chostus, lle dylid ystyried opsiynau llai niweidiol i’r amgylchedd.”
Dywedodd fod cynlluniau’r Llywodraeth yn seiliedig ar “fodel sy’n chwerthinllyd” ac sydd yn dangos diffyg ymwybyddiaeth o realiti.
Does dim angen cynllun newydd i ymestyn yr M4, meddai, gan y byddai annog mwy o bobol i gerdded a seiclo’n ddigon i leihau’r traffig ar y ffyrdd.