Tweli Griffiths
Mae’r newyddiadurwr Tweli Griffiths yn dweud ei fod wedi ei siomi a’i syfrdanu gan ddiffygion y gwasanaeth iechyd yng Nghymru o’i gymharu â Lloegr, ar ôl gorfod cael triniaeth breifat.

Mewn rhaglen arbennig o’r Byd ar Bedwar heno sy’n edrych ar gyflwr y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, mae Tweli Griffiths yn dweud mai mynd yn breifat am driniaeth y galon oedd ei unig opsiwn oherwydd y rhestr aros hir yng Nghymru.

“O’n i’n gwybod, os o’n i am fod yn sicr o fyw, byddai’n rhaid i fi dalu o ’mhoced fy hunan am driniaeth,” meddai wrth y Byd ar Bedwar.

“Dwi yn teimlo yn flin fy mod i wedi talu trethi ar hyd fy oes, ac wedyn gorfod talu am driniaeth feddygol hefyd,” meddai.

£18,000 am driniaeth breifat

Yn Ebrill 2012, aeth Tweli Griffiths i weld ei feddyg wedi iddo sylwi ar guriad calon afreolaidd. Roedd e angen profion pellach ond, meddai, roedd rhestr aros o fisoedd i gael y profion hynny.

Felly fe benderfynodd fynd yn breifat. Wrth i’w gyflwr waethygu, roedd angen triniaeth frys arno er mwyn achub ei fywyd.

Cafodd wybod y byddai’n rhaid aros “chwech i naw mis” am y driniaeth honno ar y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, felly fe benderfynodd mynd i’w boced ei hun a thalu £18,000 am driniaeth breifat.

“Wnes i ddim pleidleisio dros ddatganoli er mwyn gweld y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn dirywio,” meddai.

‘Cymru mewn gwaeth cyflwr na Lloegr’

Dechreuodd Tweli Griffiths weithio yn Llundain yn 2013, yn cynorthwyo’r Aelod Seneddol Ann Clwyd ar ei hymchwiliad i’r gwasanaeth iechyd yn Lloegr. Tra yno, cafodd wybod gan ei feddyg bod yr union brofion a dalodd amdanynt yng Nghymru ar gael o fewn dyddiau, ac wythnosau fan bellaf, yn Llundain, a hynny am ddim ar y gwasanaeth iechyd.

“Dwi’n arbennig o flin o gael gwybod petawn i’n byw yn Llundain y baswn i wedi cael popeth am ddim ac o fewn amser byr. Allwch chi ddim cael hynna yng Nghymru,” meddai.

“Mae Cymru, hyd y gwelaf i o ran y gwasanaeth iechyd, mewn gwaeth cyflwr na Lloegr.”

Galw am ymchwiliad

Mae e’n un o nifer sydd nawr yn galw am ymchwiliad annibynnol i’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

“Fy apêl i Lywodraeth Cymru, ac nid yn unig i Lywodraeth Lafur, ond i’r gwrthbleidiau hefyd, yw eu bod nhw’n dechrau trwy gydnabod yn agored ac yn onest maint y problemau yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, a’u bod nhw wedyn yn casglu ewyllys diffuant rhyngddyn nhw fel pleidiau i wneud rhywbeth amdano fe.”

Datganiad bwrdd iechyd

Wrth ymateb i gwynion Tweli Griffiths, derbyniodd y Byd ar Bedwar ddatganiad gan Dr Sue Fish, cyfarwyddwr meddygol Bwrdd Iechyd Hywel Dda, yn dweud fod enghreifftiau o’r fath “yn dangos pam fod sicrhau darpariaeth o ofal teg a safonol yn flaenoriaeth barhaus i Hywel Dda er mwyn gwella mynediad i gleifion wedi iddyn nhw gael eu cyfeirio a’u trin, os bod angen llawdriniaeth arnyn nhw ai peidio.

“Mae hynny’n cael ei adlewyrchu yn yr amseroedd aros diweddaraf ar gyfer diagnosis.”

Mae’r ystadegau diweddar ar gyfer Sir Gaerfyrddin yn awgrymu mai tair i bedair wythnos yw’r amser aros ar gyfer sgan ECG, tra bod amser aros ar gyfer electrocardiogram yn 12-14 wythnos, a sgan MRI yn llai na 10 wythnos.

‘Y gwasanaeth iechyd ddim mewn argyfwng’

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething wrth Y Byd ar Bedwar fod y Llywodraeth yn “gwybod bod angen i’r gwasanaeth iechyd wneud yn well ar ystod eang o bwyntiau, felly dwi’n deall bod yna bryderon a dwi ddim yn ceisio esgus nad yw’r system dan bwysau. Ond dyw’r gwasanaeth iechyd ddim mewn argyfwng, ac mae’n parhau i wneud gwaith rhagorol ar gyfer pobol ar draws Cymru.”

Bydd Y Byd ar Bedwar yn cael ei darlledu am 10pm heno, ar S4C