David Gauke AS, Danny Alexander, Jane Hutt, Stephen Crabb
Fe all gweinidogion Cymru gael pwerau i gyhoeddi bondiau er mwyn cynyddu eu gallu i fenthyg arian.

Bu cyfarfod y bore yma rhwng Prif Ysgrifenydd y Trysorlys, Danny Alexander, Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb,  Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, Jane Hutt, a David Gauke AS i drafod y mater, ynghyd a materion eraill.

Dyma gyfarfod cyntaf Cyd-bwyllgor y Trysorlys sy’n goruchwylio’r broses o drosglwyddo pwerau trethi a benthyg i Lywodraeth Cymru.

Fe drafododd y pwyllgor Fil Cymru sy’n mynd drwy’r Senedd yn San Steffan. Fe fydd yn rhoi pwerau i Lywodraeth Cymru dros y dreth tirlenwi, treth stamp, treth incwm, yn dilyn refferendwm, a phwerau benthyg.

‘Allweddol’

Dywedodd Danny Alexander, bod y cyfarfod yn un “allweddol” yn setliad datganoli’r Deyrnas Unedig.

“Ry’n ni wedi gwneud cynnydd pwysig tuag at gytuno ar y mecanwaith yn y ffordd y byddai gweinidogion Cymru’n gallu cyhoeddi bondiau er mwyn cynyddu eu gallu i fenthyg (arian),” meddai.

Dywedodd Jane Hutt ei bod hi’n bwysig bod y ddwy lywodraeth yn gweithio’n agos gyda’i gilydd er mwyn pobol Cymru a’r Deyrnas Unedig.

“Heddiw fe drafodon ni nifer o faterion cyllid gwahanol sy’n mynd i gael oblygiadau mawr ar Gymru,” meddai.

“Roedd fy ffocws i ar ddatganoli graddau busnes yn llawn o Ebrill 2015. Fe edrychon ni hefyd ar yr achos i Gymru gael pwerau i gyhoeddi bondiau ac am yr angen o gyllido teg.”