Roedd byw fel rhywun yn 1525 ar gyfer sioe ar S4C yn brofiad “ffantastig” yn ôl un gafodd ei ffilmio.

Gweithio fel porthor fu Dr Glyn Jones yn ystod ei dair wythnos yn ffilmio Y Llys.

“Er fy mod i’n wyddonydd o ran fy ngwaith roeddwn i’n meddwl y basa dysgu mwy am y Tuduriaid yn ddiddorol,” meddai.

“Roedd o’n brofiad ffantastig ac yn dangos pa mor dechnolegol mae’r oes ydan ni’n byw ynddi nawr. A pa mor anghyfrifol mae pobol – pan mae rhywun yn eistedd i lawr i gael bwyd, ‘da chi ddim yn gweld ddim byd ond ffons wedi mynd.

“Ond yn 1525 y peth oedd yn eu poeni nhw fwyaf oedd cael y tân i fynd am chwech y bore, sicrhau bod y bwyd yn cael ei goginio i’r feistres a’r teulu a phopeth arall i’w wneud hefo gwaith.

“Roedd o’n brofiad addysgiadol ffantastig, yn enwedig i wyddonydd sydd yn gwybod fawr ddim o hanes Cymru.”

Cyhoeddi’r cast

Mae S4C wedi cyhoeddi enwau’r 17 o bobol sydd wedi bod yn ffilmio rhaglen Y Llys dros y tair wythnos ddiwethaf, gan gamu nôl i fyw fel oedd hi yn Oes y Tuduriaid yn yr 16eg Ganrif.

Llys Tretŵr ger pentref Crughywel yn ne Powys gafodd ei ddefnyddio yn y gyfres sy’n cael ei darlledu ar 1 Tachwedd.

Michael Griffith a Heather Griffith o Ben Llŷn fydd meistr a meistres y tŷ a’u plant, Helena, 12, Mathew, 10, a’r efeilliaid Esme ac Anna, naw, fydd plant Y Llys.

Gwion Thorpe o Gaerdydd fydd yn camu i esgidiau’r steward a Dawn Worsley o Ben Llŷn fydd morwyn y tŷ.

Yn ymuno â nhw fel aelodau o’r gweithlu, fydd gweision y lifrai, Geraint Siddal o Niwbwrch, Sir Fôn ac Iwan Morgan o Lanbadarn Fawr ger Aberystwyth. Bydd mab Iwan, Peredur Morgan, 12 oed hefyd yn  was.

Y porthor fydd Dr Glyn Jones, o Gas-gwent, a’r gweision cegin fydd Morgan Williams o Garndolbenmaen, Rhian Davies o Lansilin, Mared Llywelyn Williams o Forfa Nefyn a Loti Flowers o Greunant ger Castell-nedd.

Offeiriad y gyfres fydd Rhidian Jones, sy’n dod o Aberaeron ond bellach yn byw yn Whitney, Rhydychen.

Mae S4C eisoes wedi cyhoeddi enw’r cogydd yn Y Llys, sef Llŷr Serw ap Glyn o Fethesda.