Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i ymosodiad difrifol ar ddyn 46 oed yn Abertawe neithiwr.

Cafodd yr heddlu eu galw i dŷ ym Mharc Sgeti toc wedi 8.30yh neithiwr.

Cafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Treforys, lle mae’n derbyn triniaeth am anafiadau difrifol.

Mae dyn 22 oed wedi cael ei arestio ac mae e yn y ddalfa tra bo’r ymchwiliad yn parhau.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.