Canabis
Cafodd ffatri ganabis ei ddarganfod ar dir ysbyty meddwl ym mis Mehefin meddai Heddlu De Cymru heddiw.

Fe wnaeth yr heddlu ganfod 30 o blanhigion canabis anghyfreithlon mewn ward sydd ddim yn cael ei ddefnyddio rhagor ar dir Ysbyty’r Eglwys Newydd, Caerdydd, wrth chwilio am berson oedd ar goll.

Credir bod y rhai sy’n gyfrifol hefyd wedi cysylltu goleuadau uwchfioled pwerus i gyflenwad trydan yr ysbyty.

Darganfuwyd y ffatri pan oedd yr heddlu yn chwilio am berson ar goll ar 30 Mehefin.

Er bod swyddogion diogelwch yr ysbyty yn patrolio’r ardal yn rheolaidd, credir nad ydynt yn mynd i mewn i’r adeiladau sydd ddim yn cael eu defnyddio rhagor.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ei fod yn gwneud popeth o fewn ei allu i helpu’r heddlu gyda’u hymchwiliad.

Meddai Abigail Harris, cyfarwyddwr cynllunio’r bwrdd iechyd: “Byddem yn hoffi sicrhau’r cyhoedd fod timau diogelwch y bwrdd iechyd yn cynnal patrolau rheolaidd o’n holl safleoedd.

“Mae hyn wedi digwydd mewn cornel fach o ysbyty mawr mewn ardal a oedd wedi ei gau yn ddiogel a heb gael ei ddefnyddio am flynyddoedd lawer. Mae’n achos anarferol ac ynysig sy’n cael ei adolygu yn ofalus gyda’r heddlu.

“Byddem yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad hwn i gysylltu â’r heddlu.”