Simon Dacey
Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth er mwyn dod o hyd i ddyn 37 mlwydd oed sydd ar goll.

Aeth Simon Dacey ar goll am 8:45 bore ddoe o’i gartref ym mhentref Llandochau Fach ger Penarth.

Fe’i welwyd yn gadael ei gartref mewn car Suzuki swift melyn gyda rhif trwydded CK55 UYR.

Meddai’r heddlu eu bod nhw’n pryderu amdano ac maen nhw’n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am ei ddiflaniad i gysylltu â nhw ar 101 gan ddyfynnu rhif cyfeirnod 1400293966.