Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio am wyntoedd cryfion a glaw trwm yfory wrth i Gorwynt Bertha anelu tuag at Gymru.
Fe allai’r gwyntoedd fod hyd at 60 milltir yr awr mewn mannau a gall hyd at 60mm o law ddisgyn ar draws de Cymru ddydd Sul.
Mae’r storm, a oedd wedi effeithio’r Caribî yn gynharach yn yr wythnos, ar ei ffordd i ynysoedd Prydain.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd mae’n debyg y bydd Corwynt Bertha yn symud ar draws Cymru o’r Atlantig.
Mae’n bosib y gall rhannau helaeth o Gymru osgoi’r tywydd gwaetha.