Mae Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond, wedi dweud na fydd yn ystyried cynllun wrthgefn os yw ei fwriad i rannu’r bunt yn sgil annibyniaeth yn methu.

Mae Salmond wedi ysgrifennu llythyr agored ym mhapur newydd y Sun yn egluro pam ei fod wedi gwrthod galwadau arno i gyhoeddi beth yw ei gynllun wrth gefn.

Mae dyfodol ariannol yr Alban wedi hawlio’r prif sylw yn ddiweddar yn y ddadl ynglŷn ag annibyniaeth.

Ond mynnodd Alex Salmond yn y llythyr y byddai “Plan B yn awgrymu ein bod ni’n fodlon derbyn ail orau. Ac nid wyf fi, fy nghydweithwyr, yr SNP na’r ymgyrch Ie yn fodlon derbyn ail orau i’r Alban.

“Y peth olaf fyswn i’n ei wneud yw cefnogi cynllun na fyddai’r un orau ar gyfer yr Alban.”

Tra bod Alex Salmond yn ffafrio parhau i ddefnyddio’r bunt pe bai’n annibynnol mae’r tair prif blaid yn San Steffan wedi dweud nad ydyn nhw’n fodlon rhannu’r bunt.

Mae’r refferendwm yn cael ei gynnal ar Fedi 18.