Lesley Griffiths - hyderus
Mae’r Gweinidog Llywodraeth Leol yn hyderus y bydd rhai o gynghorau Cymru’n uno’n wirfoddol.

Dywedodd Lesley Griffiths bod awdurdodau eisoes wedi dod at ei gilydd i drafod y mater.

Dywedodd y bydd yn siarad gyda holl arweinwyr y cynghorau a’i bod eisoes wedi cael trafodaethau “cadarnhaol” gydag awdurdodau’r Gogledd.

Ym mis Ionawr awgrymodd Comisiwn Williams, a oedd yn edrych ar ddyfodol gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, bod eisiau cwtogi nifer y cynghorau o 22 i rhwng 10 a 12.

Gobaith Llywodraeth Cymru yw annog y cynghorau i uno gan ddweud y byddai’r awdurdod yn cael eu hetholiadau yn 2018 yn lle 2017.

‘Tebygol’

“Dw i’n meddwl ei bod hi’n debygol y bydd rhai awdurdodau lleol yn uno’r wirfoddol,” meddai Lesley Griffiths. “Ym mis Gorffennaf fe wnes i gyhoeddi’r papur gwyn (sy’n edyrch ar ddiwygio llywodraeth leol) ac mae hwnna allan i ymgynghoriad nes mis Hydref.

“Dros yr haf dw i’n cwrdd gydag arweinyddion y cynghorau i gyd. Fe wnes i gyfarfod gyda grŵp yng ngogledd Cymru ddoe ac fe gafwyd trafodaethau positif ynghylch uno’n wirfoddol.

“Rwy’n gwybod bod amryw o’r awdurdodau yn trafod hyn ac i hynny ddigwydd mae’n rhaid i ddau ddod yn gytûn. Yn sicr, fy argraffiadau i o gwmpas Cymru yw bod awdurdodau lleol yn dod at ei gilydd.”

Doedd hi ddim yn fodlon dweud pa gynghorau oedd y rheiny gan y byddai hynny’n “annheg”.

Ychwanegodd: “Rwy’n meddwl bod llawer mwy o awdurdodau wedi dechrau trafodaethau nag oedd cyn i mi gyhoeddi’r papur gwyn.”

Siâp y map

Pan ofynnwyd iddi a oedd awdurdodau lleol o’r un farn â’r Llywodraeth ynghylch siâp y map newydd, dywedodd: “Ydyn, o’r trafodaethau dw i wedi eu cael. Ond dw i heb drafod hynny gyda’r arweinwyr i gyd eto a, heb amheuaeth, mi wnaiff hynny gael ei drafod.

“Yn amlwg mae gan Lywodraeth Cymru fap ei hun ac mae awdurdodau lleol yn gweithio ar y seiliau hynny.

“Mae hynny’n rhan o’r daith ac os ydyn nhw eisiau dod ymlaen gyda sylwadau yna mi wnawn ni edrych ar hynny.”