Prifysgol Aberystwyth
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi dweud ei bod yn “siomedig iawn” na fydd Fferm Penglais, llety newydd i fyfyrwyr gwerth £45m, yn barod erbyn dechrau’r flwyddyn academaidd newydd.

Dywed y Brifysgol bod y datblygwyr Balfour Beatty wedi cadarnhau wrthi yn hwyr ym mis Gorffennaf y bydd na oedi cyn cwblhau’r gwaith ar Fferm Penglais.

Mewn datganiad wrth y Brifysgol, dywedodd Balfour Beatty ei bod “yn ddrwg gennym am yr anghyfleustra mae hyn wedi’i achosi.”

Yn y datganiad, dywedodd Balfour Beatty: “Oherwydd amgylchiadau, rhai ohonynt y tu hwnt i’n rheolaeth, mae dyddiad cyflwyno prosiect Fferm Penglais wedi’i ohirio. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu 14 o flociau, ynghyd â’r adeilad canolog erbyn dechrau Tachwedd 2014, gyda gweddill y llety yn cael ei gyflwyno mewn da bryd ar gyfer cychwyn y flwyddyn academaidd 2015/16.”

Cysylltu â’r myfyrwyr

Dywedodd Rebecca Davies, Dirprwy Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Aberystwyth; “Mae ein cydweithwyr yn y Swyddfa Llety yn cysylltu â phob un o’r myfyrwyr sydd wedi eu heffeithio gan yr oedi hwn er mwyn eu sicrhau y bydd llety arall yn cael ei ddarparu a’u cynghori ar yr opsiynau sydd ar gael iddynt.

“Bydd pob myfyriwr blwyddyn gyntaf yn cael cynnig llety, gan gynnwys pob un sy’n dewis ymuno â ni drwy Clirio.

“Gwnaeth llawer o fyfyrwyr archebu eu llety ar Fferm Penglais yn gynnar. Bydd pob un o’r myfyrwyr hynny yn cael cynnig llety arall a bydd rhai yn cael cynnig y dewis o symud i ystafelloedd ar Fferm Penglais pan fyddant ar gael yn yr hydref.

“Mae’r Cytundeb Prosiect sydd wedi ei lofnodi gan y Brifysgol a Balfour Beatty yn golygu na fydd unrhyw fyfyrwyr heb lety. Mae’n golygu hefyd na fydd unrhyw fyfyriwr, na’r Brifysgol, yn colli allan yn ariannol o ganlyniad i’r oedi hwn.”

Cymorth

Byddai ail neuadd ar gyfer myfyrwyr Cymraeg eu hiaith wedi bod yn rhan o’r datblygiad newydd, ac wrth ymateb i’r newyddion fe ddywedodd Llywydd UMCA Miriam Williams y byddan nhw’n ceisio bod o gymorth i unrhyw fyfyrwyr oedd wedi’u heffeithio gan y newid.

“Prif flaenoriaeth UMCA ydi’r myfyrwyr, ac mae UMCA yma i helpu ei haelodau bob amser,” meddai Miriam Williams. “Hyderaf y byddant yn derbyn pob cymorth y maen nhw eu hangen gan y Brifysgol yn dilyn y newyddion yma.

“Fodd bynnag, os nad yw’r cyngor yma yn ddigonol nac o gymorth, dwi’n annog unrhyw un sydd yn cael eu heffeithio gan hyn i gysylltu â mi ac mi wnâi geisio fy ngorau glas i’w helpu, boed yn ddarpar fyfyrwyr neu’n fyfyrwyr sy’n dychwelyd.”