Milwyr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf yng Ngwlad Belg
Bydd gwasanaethau yn cael eu cynnal ar hyd a lled Ewrop heddiw i nodi 100 mlynedd ers i Brydain ymuno a’r Rhyfel Byd Cyntaf.

Am 11yh ar 4 Awst, 1914, cyhoeddodd Prydain ei bod yn mynd i ryfel yn erbyn yr Almaen, gan ddechrau ar bedair blynedd o ryfel gwaedlyd.

Collwyd miliynau o fywydau gan gynnwys 750,000 o filwyr o Brydain a’r Gymanwlad.

Yng  Nghymru, bydd gwasanaeth coffa arbennig yn cael ei chynnal yng Nghadeirlan Llandaf gydag Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan, yn arwain y gwasanaeth.

Bydd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones yn ymuno â Dug a Duges Caerloyw mewn gwylnos yn y Gadeirlan yn Llandaf

Meddai Carwyn Jones: “Mae heddiw’n nodi cyfnod diffiniol yn ein hanes.

“Mae digwyddiadau coffa yn digwydd ledled Cymru ac fe fyddan nhw’n sicrhau ein bod ni byth yn anghofio eiliad o ryfel a fyddai wedi effeithio ar fywydau pob person oedd yn byw yng Nghymru.

“Bydd y digwyddiadau hyn am cofio aberth y dynion a merched cyffredin o gymunedau ledled Cymru a chost rhyfel a’r effaith gafodd trwy ein cenedl drwy ffurfio’r Gymru rydym yn ei hadnabod heddiw.”

Ym Mangor, mae’r artist Bedwyr Williams wedi creu gwaith fydd yn gweld darluniau ac enwau milwyr fu farw yn y rhyfel yn cael eu taflunio ar wal Canolfan Celfyddydau ac Arloesi newydd Prifysgol Bangor gan greu cyswllt rhwng y gorffennol a gobeithion y dyfodol.

Mae’r Prif Weinidog David Cameron, y Tywysog Charles, Carwyn Jones a Phrif Weinidog yr Alban Alex Salmond yn ymgynull ar gyfer gwasanaeth yng Nghadeirlan Glasgow y bore ma.

Am 11 o’r gloch heno hefyd, mae pobl wedi cael eu hannog i ddiffodd eu goleuadau gan adael un golau neu gannwyll wedi ei danio fel symbol o obaith yn y tywyllwch.

Mae’r prosiect LIGHTS OUT yn cyfeirio at sylw enwog ysgrifennydd tramor Prydain yn 1914, Syr Edward Grey, a ddywedodd y noson cyn i Brydain ymuno a’r rhyfel:  “Mae’r lampau yn diffodd ar hyd a lled Ewrop, ni fyddwn yn eu gweld nhw wedi cynnau eto yn ein hoes ni.”

Bu farw’r milwr Prydeinig  olaf a wasanaethodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, Florence Green, yn 110 oed ym mis Chwefror 2012.