Robin Farrar a Bethan Williams gyda chefnogwyr tu allan i Lys Ynadon Aberystwyth
Mae Cadeirydd presennol Cymdeithas yr Iaith, a’r un fu cyn hynny, wedi eu dirwyo y bore yma yn dilyn achos llys yn Aberystwyth.

Roedd Robin Farrar, y Cadeirydd presennol, a Bethan Williams wedi paentio “Addysg Gymraeg i Bawb” ar  wal adeilad Llywodraeth Cymru yn Aberystwyth nôl ym mis Mai.

Fe gymrodd yr heddlu eu potiau paent ac ni fydd yr ymgyrchwyr yn eu cael yn ôl. Mae Ynadon wedi gofyn i’r ddau dalu diwryon o £90 yr un.

Geiriau ddim yn ddigon

Meddai Robin Farrar: Rydyn ni ac ymgyrchwyr eraill wedi llwyddo gosod yr agenda o ran sefyllfa’r iaith, ond rhaid dal ati i weithredu. Mae Llywodraeth Carwyn Jones, hyd yn oed, bellach yn cydnabod bod angen diwygio’r drefn gynllunio er budd y Gymraeg, ac bod angen symud tuag at addysg Gymraeg i bawb – dyna ddau o’r chwe pheth roedden ni’n galw amdanynt wrth weithredu yn Aberystwyth. Ond nid yw geiriau Carwyn Jones yn ddigon – mae angen iddo gymryd cyfrifoldeb a gweithredu. Fel ymgyrchwyr, mae dyletswydd arnon ni i ddangos bod gweithredu’n bosib – dyna pam gyhoeddon ni fil cynllunio amgen ein hunain, dyna pam fod ein cefnogwyr heddiw yn llenwi cerdiau post ynglŷn ag addysg a chynllunio, a dyna pam dorron ni’r gyfraith a chymryd cyfrifoldeb.”