Bydd staff Cyngor Sir Penfro sy’n aelodau o undebau yn protestio dros y “catalog o fethiannau a phryderon” o dan arweiniad y Prif Weithredwr, Bryn Parry Jones.

Mewn cyfarfod i aelodau undebau UNSAIN, Unite Cymru a’r GMB, fe wnaeth yr aelodau bleidleisio i brotestio a hefyd i gynnal pleidlais o ddiffyg hyder yn y Prif Weithredwr.

Yr wythnos ddiwethaf, daeth i’r amlwg fod yr heddlu yn ail-ymchwilio i honiadau fod Prif Weithredwr Cyngor Sir Penfro wedi derbyn taliadau “anghyfreithlon”.

Daw hyn wythnos yn unig ar ôl i’r Cyngor ddweud na fyddan nhw’n cymryd unrhyw gamau pellach i geisio adfer yr arian a dalwyd i Bryn Parry Jones.

Y cefndir

Ym mis Ionawr eleni fe ddechreuodd Heddlu Sir Gaerloyw ymchwiliad ar ôl i Swyddfa Archwilio Cymru ddweud bod Bryn Parry Jones a Phrif Weithredwr Cyngor Sir Caerfyrddin, Mark James, wedi derbyn taliadau o dros £50,000 yn anghyfreithlon.

Ym mis Mai fe ddaeth yr heddlu i’r casgliad nad oedd unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod troseddau wedi’u cyflawni, ond gofynnodd cynghorwyr i’r ddau dalu’r arian yn ôl.

Undebau

Mewn datganiad ar y cyd heddiw, dywedodd yr undebau fod yr ymchwiliad newydd yn “gam rhy bell” i weithwyr Cyngor Sir Penfro.

Meddai Vic Dennis, ysgrifennydd rhanbarth UNSAIN: “Mae aelodau UNSAIN yn synnu nad yw rhywun sy’n gysylltiedig â’r saga hwn heb gael ei atal o’r gwaith dros dro tra bod yr ymchwiliad, ac yn awr yr ailymchwiliad, yn digwydd.”

Ychwanegodd bod Bryn Parry Jones wedi gwrthod ad-dalu dim o’r £45,000 o’r taliadau pensiwn a dderbyniodd yn uniongyrchol i’w cyfrif banc.

Mae’r undebau yn bwriadu cynnal y brotest wythnos i ddydd Gwener, Awst 8.