Canolfan HWB (Llun: Cymdeithas Dai Grwp Cynefin)
Mae canolfan a fydd yn cynnig cyfleoedd addysg a gwaith i bobl ifanc ar fin agor ei drysau yn Ninbych.
Bwriad canolfan HWB Dinbych, a adeiladwyd ar hen safle Autoworld, yw cynnig amrywiaeth o wasanaethau cefnogi i bobl Dinbych a’r cylch gan weithio gyda busnesau a mudiadau lleol.
Cymdeithas dai Grŵp Cynefin fydd yn rhedeg y ganolfan, gyda’r disgwyl y bydd hi’n agor yn Awst, ac fe fydd yn brosiect partneriaeth gydag adrannau gwasanaethau ieuenctid a thai Cyngor Sir Ddinbych, Grŵp Llandrillo Menai, a Phrosiect Ieuenctid Dinbych.
Mae’r prosiect eisoes wedi denu cefnogaeth busnesau lleol a’r gobaith yw y bydd yn cynnig llwybr arall i mewn i waith ar gyfer llawer o bobl ifanc.
“Prif nod HWB Dinbych yw cynyddu’r cyfleoedd i gael hyfforddiant a gwaith yn lleol,” meddai Mair Edwards, rheolwr datblygu cymunedol Grŵp Cynefin.
“Gwneir hyn drwy weithio’n agos gyda busnesau lleol, sefydlu mentrau hunan gyflogaeth, datblygu cyfleoedd menter lleol a helpu pobl ifanc i gael addysg bellach.
“Cawsom ymateb rhagorol gan fusnesau lleol. Mae 30 ohonynt eisoes wedi cytuno i’n cefnogi wrth i ni ddatblygu cynllun paru â swyddi lleol.”
Fflatiau i fyw’n annibynnol
Mae’r adeilad newydd yn cynnwys pedair ystafell ddosbarth, stiwdio gerdd, lle ar gyfer gweithdy, ystafell Dechnoleg Gwybodaeth, cegin ddysgu coginio ac ystafell aml bwrpas lle gellir cynnal llawer o wahanol weithgareddau, yn cynnwys dosbarthiadau ffitrwydd, cyfarfodydd a chlybiau ieuenctid.
Bydd chwe fflat hefyd yn rhan o’r adeilad fydd yn cynnig cyfle i bobl ifanc baratoi ar gyfer byw’n annibynnol.
Ac fe fydd modd i’r gymuned leol gael cip ar yr adeilad a’i chyfleusterau ar ddyddiau agored canolfan HWB Dinbych ar 6 a 13 o Awst.
“Yn ogystal â chefnogi pobl ifanc, rydym yn falch o fod wedi trawsnewid safle yng nghanol Dinbych a esgeuluswyd ers cyfnod maith,” meddai prif weithredwr Grŵp Cynefin, Walis George.
“Fe’i trowyd yn adnodd a ddaw â manteision tymor hir i’r gymuned gyfan. Ymfalchïwn hefyd yn y model partneriaeth a arweiniodd at wireddu’r prosiect hwn. Mae’n dangos ymrwymiad Grŵp Cynefin i’n prosiectau adfywio a gwaith cymunedol.”