David Edwards
Mae Heddlu Gwent yn gofyn am help y cyhoedd er mwyn ceisio dod o hyd i bensiynwr 79 oed sydd ar goll o’i gartref ym mhentre’ Cwm.

Does neb wedi gweld David Edwards ers canol dydd, dydd Sadwrn, Gorffennaf 26.

Mae disgrifiad ohono yn rhestru mai dyn gwyn ydi o, yn mesur tua 5’2″ o daldra, o gorffolaeth eiddil, a gyda gwallt llwydwyn wedi ei eillio’n fyr. Ddydd Sadwrn, roedd yn gwisgo crys streipiog glas golau, a throwsus brown.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio Heddlu Gwent ar y rhif 101.