Mae gweithwyr cyngor a chymorthyddion dosbarth yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon wedi trefnu ail ddiwrnod o streicio dros yr anghydfod ynglŷn â chyflogau.

Daw’r ail brotest, fydd yn digwydd ar 30 Medi, yn dilyn streic ar 10 Gorffennaf lle bu i dros filiwn o weithwyr y gwasanaeth tân, ysgolion ac awdurdodau lleol gerdded allan o’u gwaith. Dyma oedd y streic fwyaf dros gyflogau ers i’r Llywodraeth Glymblaid ddod i rym.

Y rheswm am y streic, yn ôl undeb y TUC, yw fod rhai gweithwyr y sector cyhoeddus yn ennill £2,000 yn llai o dan y Llywodraeth bresennol ar gyfartaledd, tra bod hanner miliwn o weithwyr cynghorau’n ennill cyflog sy’n is na chyflog byw.

‘Neges glir’

Meddai Heather Wakefield, pennaeth awdurdodau lleol undeb Unsain:

“Fe wnaeth y streic ar 10 Gorffennaf anfon neges glir bod gweithwyr awdurdodau lleol a chymorthyddion dosbarth wedi cael llond bol ac yn flin o gael eu hecsbloetio.

“Mae’n warthus bod cymaint o weithwyr a’u teuluoedd yn cael eu gorfodi i fyw ar gyflogau mor isel.

“Roedd cefnogaeth eang gan y cyhoedd i’n haelodau fu’n streicio, y mwyafrif ohonyn nhw’n ferched sy’n gweithio’n rhan amser ar gyflogau isel ac sydd wedi gweld cyflogwyr yn cymryd mantais ohonyn nhw am ormod o amser.”