Sesiwn Fawr Dolgellau
Mae dwy ŵyl Gymraeg nodedig yn mynd i fod yn cystadlu am bresenoldeb y gynulleidfa Gymreig y penwythnos hwn.

Fe ddechreuodd Gŵyl Arall yng Nghaernarfon neithiwr gyda chwis yng nghwmni Tudur Owen a Dyl Mei a pherfformiad gan y band Clustiau Cŵn, ac mae Sesiwn Fawr yn Nolgellau yn agor ei drysau heno gydag Ywain Gwynedd, Candelas, Gentle Good a’r Peatbog Fairies.

Trafod geiriau

I’r rhai sy’n mwynhau llenyddiaeth a chelf, mae Gŵyl Arall yn cynnig sgyrsiau o fore tan nos, gan feirdd ac awduron fel Llŷr Gwyn Lewis a Manon Steffan Ros a bydd arddangosfa o waith newydd y ffotograffydd Mabon Llŷr yn agor heno.

Ac i’r rocars Cymreig, fe fydd Sesiwn Fawr yn darparu gwledd gerddorol ar lwyfan awyr agored ac mewn tafarndai yn Nolgellau, gan fandiau amlwg fel Cowbois Rhos Botwnnog, Georgia Ruth a Mike Peters.