Bydd band roc trwm Cymraeg oedd ar ei anterth yn yr Wyth Degau yn perfformio am y tro cyntaf ers degawd yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gaerfyrddin yn Llanelli eleni.

Bu Crys yn arwain gigs Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ym mhob Eisteddfod o 1979 nes iddyn nhw orffen yn1984.  Er iddyn nhw ail-ffurfio yn y Naw Degau mae disgwyl i docynnau ar gyfer y gig yn Llanelli werthu’n gyflym, wedi i unig gigs y band yn Eisteddfod Castell Nedd yn 1994 a’r Faenol yn 2004, werthu allan yn llwyr.

“Mae’n adeg gyffrous iawn i ni – dw i’n gwybod bod llawer iawn o bobl yn edrych ymlaen yn fawr at ein gweld ni yn chwarae eto. Y tro diwethaf i ni chwarae gyda’r Gymdeithas oedd yn ôl yn 1984 yn Llanbed,’’ meddai Liam Forde, prif ganwr Crys.

“Ry’n ni’n mynd i berfformio’r hyn mae pobl wedi bod yn gofyn i ni chwarae, sef yr hen ffefrynnau.  Mae pobl yn edrych ymlaen at ein gweld ni yn eu chwarae nhw eto. Mae’n cefnogwyr ar Facebook wedi bod yn erfyn arnon ni i’w perfformio. Bydd y set yn debyg i’r goreuon wnaethon ni ryddhau ar CD gyda Sain tua thair blynedd nôl. Mae’n wych bod gan gymaint o bobl diddordeb – mae’n caneuon yn mynd i fod yr un mor ffres ag oedden nhw yn yr Wyth Degau,’’ ychwanegodd Forde.

Mi fydd y band, sy’n wreiddiol o Resolfen, yn chwarae nos Lun 4ydd Awst yng nghlwb rygbi’r Ffwrnes yn Llanelli, gyda’r Bandana, Y Reu a Castro. Mae Cymdeithas yr Iaith yn trefnu gigs drwy gydol wythnos yr Eisteddfod, yn y Thomas Arms, Kilkenny Cat a Chlwb Rygbi Ffwrnes yn y dref, mae manylion llawn ar gael drwy fynd i cymdeithas.org/steddfod.