Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth ynglŷn â digwyddiad lle cafodd dyn ei daflu oddi ar ei feic wrth iddo seiclo ym Mhenarth ddoe.

Mae’r dyn yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd ar hyn o bryd, ond nid yw’r heddlu wedi gallu ei adnabod hyd yn hyn.

Credir ei fod rhwng 25 a 30 oed, yn chwe throedfedd o daldra, a gyda gwallt brown a mwstas.

Yn ôl yr heddlu roedd yn gwisgo top seiclo ‘Muddy Fox’ du, llwyd a coch a siorts seiclo glas tywyll Nike ar adeg y ddamwain. Roedd ganddo hefyd helmet Trac a beic Globe arian.

Digwyddodd y ddamwain tua 5:40 o’r gloch neithiwr, ar gyffordd St Augustine ym Mhenarth.

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un a welodd y ddamwain neu a fyddai’n medru adnabod y dyn i gysylltu â nhw  ar 101 gan ddyfynnu cyfeirnod 669.