Carwyn Jones
Mae Carwyn Jones wedi cyhoeddi pa gyfreithiau newydd mae am eu cynnig ger bron y Cynulliad yn y flwyddyn nesaf.

Ymysg ei flaenoriaethau mae mesurau i symleiddio’r broses gynllunio, paratoi ar gyfer uno awdurdodau lleol, sicrhau bod gan blant Cymru gymwysterau o’r radd flaenaf, gwella iechyd y cyhoedd, a gosod trethi newydd yn unol ag argymhelliad y Comisiwn Silk.

Bil Casglu a Rheoli Trethi

Wrth i’r Llywodraeth gychwyn camau deddfu am y tro cyntaf ers y Comisiwn Silk, dywedodd Carwyn Jones y bydd corff corfforaethol newydd yn cael ei sefydlu drwy Fil Casglu a Rheoli Trethi i weinyddu’r trethi a fydd yn cael eu datganoli i Gymru wedi i Lywodraeth y DU roi Bil Cymru ar waith.

Bydd y corff newydd yn gweithredu ar wahân i Weinidogion Llywodraeth Cymru ac meddai’r Llywodraeth y bydd hyn yn sicrhau bod trethi’n cael eu casglu a’u rheoli’n effeithlon ac effeithiol.

Bil Llywodraeth Leol

Bydd Bil Llywodraeth Leol yn rhoi cynlluniau ar waith i ddiwygio awdurdodau lleol, gan roi’r pwerau gofynnol i uno awdurdodau mewn ffordd resymegol a threfnus.

Ni fydd y Bil yn uno cynghorau yn benodol gan y bydd hyn yn digwydd ar ôl etholiadau’r Cynulliad yn 2016.

Bil Cynllunio

Bydd Bil Cynllunio yn cynnig y ddeddfwriaeth i foderneiddio a symleiddio’r broses cynllunio.

Meddai’r Llywdraeth y bydd hyn yn sicrhau’r cartrefi, y swyddi a’r seilwaith y mae eu hangen ar Gymru yn hytrach nag atal datblygu.

Bil Iechyd y Cyhoedd

Bydd Bil Iechyd y Cyhoedd yn cymryd camau i fynd i’r afael â rhai materion iechyd y cyhoedd, gan gynnwys cynigion i leihau’r defnydd o e-sigaréts mewn mannau cyhoeddus caeedig a chyflwyno isafswm pris fesul uned o 50c ar gyfer alcohol, a allai bellach fod yn gyfraith.

Biliau eraill

Mae mesurau eraill a gafodd eu cyhoeddi yn cynnwys un a fyddai’n creu fframwaith newydd ar gyfer asesu plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol; mesur i amddiffyn adeiladau rhestredig a henebion Cymru yn well; a mesur i wella rhentu preifat, gan gynnwys ystyried ei gwneud yn ofynnol i bob landlord sicrhau bod yr eiddo yn addas i bobl fyw ynddo;

‘Gwahaniaeth gwirioneddol i bobl Cymru’

Dywedodd Carwyn Jones: “Pan gyhoeddais raglen ddeddfu bum mlynedd uchelgeisiol y Llywodraeth hon, amlinellais ein cynlluniau i fynd i’r afael â llawer o’r materion y mae pobl Cymru yn poeni amdanyn nhw o ddifrif, fel gwella gwasanaethau cyhoeddus, er gwaethaf y sefyllfa ariannol anodd.

“Bellach rydym hanner ffordd drwy’r rhaglen, ac er ein bod wedi cyflawni llawer o’n nodau, mae’r deg bil rwy’n eu cyhoeddi heddiw yn parhau â’n hymrwymiad o greu deddfwriaeth a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl Cymru – gyda mesurau i wella rhentu preifat a gwella iechyd pawb.

“Drwy’r rhaglen ddeddfwriaethol hon, byddwn hefyd yn gweithredu ar ddau faes diwygio pwysig, gan osod y mesurau y mae eu hangen ar gyfer uno awdurdodau lleol a symud i gyfnod newydd o ddatganoli drwy baratoi ar gyfer ein pwerau newydd i godi trethi.

“Mae hwn yn gam cyffrous i Gymru. Rydym wedi gweld sawl moment bwysig ers cael y pwerau i basio deddfau yn 2011, sy’n dangos yr hyn y mae modd ei gyflawni drwy ddeddfau sy’n cael eu creu yng Nghymru ac i Gymru. Rwy’n credu y bydd y cynlluniau rwyf wedi’u hamlinellu heddiw yn parhau â’r momentwm hwn ac yn gwneud Cymru’n lle gwell fyth i weithio a byw ynddo.”