Mae cwmni cynhyrchu ceir Vauxhall wedi cyhoeddi y byddan nhw’n creu 550 o swyddi newydd gyda 300 o’r swyddi yn Ellesmere Port.

Mae’r swyddi’n dilyn buddsoddiad o £125 miliwn gan y cwmni ar y safle. Mae’r ffatri yn Ellesmere Port ar hyn o bryd yn cyflogi 1,600 o staff, gan gynnwys nifer o weithwyr o ogledd ddwyrain Cymru.

Yn ogystal, mae Vauxhall hefyd wedi cyhoeddi y bydd eu ffatri nhw yn Luton yn cyflogi 250 o staff ychwanegol ar ben y 1,220 sydd yno’n barod.

Meddai Tim Tozer, cadeirydd a rheolwr gyfarwyddwr Vauxhall: ” Mae hyn yn newyddion gwych i Vauxhall ac i weithgynhyrchu yn y DU.

“Mae dau o’n ffatrïoedd yn y DU wedi ennill contractau hirdymor ac wrth i’r busnes gryfhau, mae angen i ni gyflogi mwy o bobl i adeiladu’r ceir newydd.”