Fe ddylai sefydliadau fel yr heddlu, y gwasanaethau iechyd ac ysgolion gydweithio’n well a gwneud mwy i fynd i’r afael a chaethwasiaeth yng Nghymru.

Dyma farn y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol sy’n pryderu nad yw’r sefydliadau yma yn gwybod digon am y broblem.

Cymru yw’r wlad gyntaf ym Mhrydain i benodi Cydgysylltydd Atal Caethwasiaeth, ond yn ôl y pwyllgor, nid oedd un Comisiynydd Heddlu a Throseddu yng Nghymru hyd yn oed wedi clywed am y swydd.

Mae’r pwyllgor hefyd yn galw am fwy o bwerau i’r Cydgysylltydd gan gynnwys rhoi cymorth i ddioddefwyr, “a bod y rôl yn darparu gwerth am arian”.

‘Perthynas weithiol’

Dywedodd Christine Chapman AC, Cadeirydd y Pwyllgor ei bod yn anodd cael gwir ddarlun o gaethwasiaeth yng Nghymru, oherwydd bod llawer o ddioddefwyr yn rhy ofnus i ddod i’r amlwg:

“Rydym yn falch o weld ymdrechion gan Lywodraeth Cymru i gael gwell dealltwriaeth o’r broblem hon yng Nghymru, ac rydym yn croesawu gwaith y Cydgysylltydd Atal Caethwasiaeth.

“Rydym yn pryderu, fodd bynnag, mewn rhai meysydd allweddol, gan gynnwys yr heddlu, ac yn y sector iechyd ac addysg, nad yw digon yn wybyddus am rôl y Cydgysylltydd, ac rydym yn annog Llywodraeth Cymru i sefydlu perthynas weithiol agosach rhwng y gwasanaethau hyn, er mwyn cynorthwyo i ddileu’r broblem annynol hon.”