Mae
Dave Braislford yn dringo Drws y Coed (llun Etape Eryri)
cannoedd o feicwr yn cystadlu mewn tair gwahanol ras ar hyd lonydd Eryri heddiw ar ôl cychwyn o’r Maes yng Nghaernarfon am saith o’r gloch y bore yma.

Roedd tua 1,300 o feicwyr yn cychwyn ar hyd pedwar llwybr ar gyfer sportiff – sef her feicio – Etape Eryri.

Mae’r Cymro Dave Brailsford, prif hyfforddwr tîm Sky sy’n wreiddiol o Ddeiniolen, yn un o’r rhai sy’n cymryd rhan.

“Mae gan y digwyddiad bopeth sydd ei angen – y golygfeydd, y cyfleusterau, y ffyrdd a’r croeso.

“Fysan ni ddim yn gallu gwneud beth ydan ni’n wneud yn nhîm Sky heb gefnogaeth digwyddiadau fel hyn, heb i bobol fod yn cymryd rhan ac yn mynd ar ei beic  – mae’n hanfodol.”

Cwmni o Lanberis ‘Camu i’r Copa’ sy’n trefnu’r diwrnod, ac er mai dim ond yn 2012 y cafodd Etape Eryri ei lansio am y tro cyntaf, yn ôl y trefnwyr mae’n mynd o nerth i nerth.

Y llwybrau

Bydd y seiclwyr yn cystadlu ar hyd tri llwybr gwahanol yn ogystal â llwybr i’r teulu:

  • Etape Bach – llwybr o 47 milltir.
  • Etape Canol – yn 76 o filltiroedd
  • Etape Mawr – 103 milltir o anghenfil ar darmac, yn ôl y trefnwyr.
  • Etape Teulu – 6.5 milltir i’r teulu.

Manylion llawn: http://etapeeryri.com/