Parlwr godro
Mae elusen gwarchod anifeiliaid wedi mynegi eu siom ar ôl colli eu brwydr i atal cynlluniau i adeiladu  parlwr godro i 1,000 o wartheg ger y Trallwng, Powys.

Er bod Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo’r datblygiad ym mis Hydref, fe enillodd y World Society for the Protection of Animals (WSPA) yr hawl i gael adolygiad barnwrol o’r penderfyniad ym mis Ionawr.

Ond fe gafodd eu hapêl ei wrthod gan lys yn y Trallwng heddiw.

Dyfarnodd y llys y bydd yn rhaid i’r elusen dalu costau cyfreithiol o £6,000 i’r ffermwr, Fraser Jones.

Dadlau

Roedd trigolion pentref Tre’r Llai wedi gwrthwynebu’r cynlluniau oherwydd eu bod yn credu bod y fferm yn rhy agos i’w cartrefi a’r ysgol gynradd a phryderon am y sŵn, yr arogl, traffig a maint y datblygiad.

Ond fe ddywedodd Brian Walters, Islywydd Undeb Amaethwyr Cymru, ei fod yn synnu fod y cais yn cael ei ail ystyried gan fod gwledydd eraill yn godro 10,000 i 20,000 o wartheg.

Roedd Fraser Jones hefyd yn dweud ei fod wedi ymdrechu i ymdrin â phryderon y bobol leol ac wedi cynnwys mesurau i fonitro pryfed, arogl a lles yr anifeiliaid.