Nathan Gill, ASE UKIP
Mae llefarydd ar ran Aelod Seneddol Ewrop UKIP yng Nghymru, Nathan Gill wedi dweud wrth Golwg360 fod y wasg wedi ymosod ar Gill am “fod yn garedig wrth dramorwyr”.

Mewn erthygl yn yr Hull Daily Mail yr wythnos diwethaf, dywedodd y papur fod Gill wedi trin gweithwyr o dramor oedd yn gweithio i’w gwmni yn y ddinas yn well nag yr oedd wedi trin gweithwyr lleol.

Dywedodd y llefarydd wrth Golwg360: “Dyma dacteg newydd gan y wasg, sef ymosod ar UKIP am fod yn garedig wrth bobol dramor.

“Dydy Nathan Gill ddim wedi gwneud unrhyw beth o’i le ac felly does dim achos i’w ateb.

“Mae’r erthygl yn yr Hull Daily Mail yn annheg iawn gan nad yw’r sawl sy’n gwneud y cyhuddiad wedi rhoi ei enw ac felly does dim modd ymateb iddyn nhw.”

Mae Golwg360 wedi bod yn trio siarad â Nathan Gill ers i flog ddatgelu’r wythnos diwethaf:

– ei fod e’n Formon ac nid yn Gristion

– ei fod yn ymchwilydd gwleidyddol i ASE UKIP  John Bufton,  cyn dod yn ASE ond ei fod yn dweud nad yw’n “wleidydd o ran gyrfa”

– ei fod wedi cyflogi pobol o ddwyrain Ewrop a bod ei gwmni teuluol wedi gwneud arian o osod tai ar gyfer rhai ohonyn nhw yn Hull.

Cyfiawnhad

Gwrthododd y llefarydd ateb y cwestiynau hynny heddiw, gan ddweud ei fod e eisoes wedi egluro’r cyhuddiadau mewn datganiad i’r wasg yn ystod yr wythnos.

Bryd hynny, dywedodd: “Fe wnaethon ni gyflogi pobol o dramor gan nad oedden ni’n gallu dod o hyd i weithwyr lleol i wneud y swyddi.

“Roedd gennym ni gartref gofal ond roedd ein gweithwyr ar y cyfan wedi’u cyflogi ar gytundebau gofal yn y cartref oedd gennym ni â Chyngor Dinas Hull a sefydliadau eraill.

“Roedd y gweithwyr yn derbyn mwy na’r isafswm cyflog ond dim llawer iawn mwy.

“Roedd y cyfanswm roedden ni’n gallu fforddio’i dalu wedi’i benderfynu gan faint o arian wnaethon ni dderbyn gan y cyngor.”

Wrth egluro’r llety ar gyfer y gweithwyr, dywedodd: “Roedd y llety’n lety dros dro wnaethon ni ei gynnig i bobol oedd yn dod o dramor tan iddyn nhw gael rhywbeth mwy parhaol.”

Eglurodd ei fod yn codi rhent o £50 yr wythnos oedd yn cynnwys trydan, a hynny i bobol oedd yn ennill rhwng £200 a £300 yr wythnos.

Cyfaddefodd fod y sefyllfa’n edrych yn wael arno, ond fod dyletswydd arno i ufuddhau i gytundebau gwaith.

“Pe na baen ni wedi cyflogi pobol o dramor, fe fydden ni wedi cael ein galw’n hiliol.

“Mae’r ffaith ein bod ni wedi cyflogi mewnfudwyr wedi arwain at gyhuddiadau o fod yn rhagrithiol.”