Mae’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes wedi dweud bod ymrwymiad Llywodraeth Cymru i roi stop ar drais rhywiol yn gryfach nag erioed.

Dywedodd Lesley Griffiths AC bod y gyllideb i daclo’r drosedd wedi codi i £4 miliwn eleni a bod “Cymru’n gwneud cynnydd gwych wrth fynd i’r afael â thrais rhywiol.”

Roedd y Gweinidog yn siarad cyn Uwchgynhadledd Fyd-eang yn Llundain heddiw sydd am fod yn trafod sut i fynd i’r afael a thrais rhywiol yn ystod gwrthdaro.

Cyd-gadeirydd  y gynhadledd fydd yr actores enwog Angelina Jolie, sef Cennad Arbennig  Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Ffoaduriaid.

‘Neges bwysig’

“Mae’r Uwch-gynhadledd fyd-eang hon yn anfon neges bwysig i ddioddefwyr trais rhywiol – nid yw’r gymuned ryngwladol wedi anghofio amdanyn nhw,” meddai Lesley Griffiths.

“Yn agosach at adre, mae Cymru’n gwneud cynnydd gwych yn mynd i’r afael â thrais rhywiol. Mae ein hadroddiad blynyddol chwe blynedd ‘Strategaeth Yr Hawl i fod yn Ddiogel’, yn dangos bod 81 o’r 89 o gamau gweithredu eisoes wedi’u cwblhau.

“Eleni fe wnaethon ni godi’r gyllideb ar gyfer gwasanaethau cymorth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol i £4 miliwn.

“Hefyd, yn ddiweddarach yn y mis byddaf yn cyflwyno Bil sy’n anelu at ddileu trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae hyn yn rhan allweddol o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddileu pob achos o drais rhywiol yng Nghymru.”