Maes Awyr Bryste (Tom Collins Trwydded GNU)
Mae awyrennau wedi ail ddechrau hedfan o Faes Awyr Bryste ar ôl i lawer o Gymry gael eu dal yno ar ôl methiant trydan.

Mae rhai teithwyr wedi gorfod hedfan heb eu cesys a channoedd yn dal i aros yn adeiladau’r maes awyr.

Ar un adeg, roedd tua 2,000 o deithwyr yn aros y tu allan – maes awyr Bryste yw un o’r rhai mwya’ poblogaidd gan deithwyr o dde Cymru.

‘Anhrefn’ meddai Cymro

Ymhlith pobol a wnaeth sylwadau ar wefannau cymdeithasol, roedd y Cymro Lleu Williams – fe soniodd am “anhrefn ac oedi mawr”.

Erbyn hyn mae’n ymddangos bod y prif broblem wedi’i chywiro gan ganiatáu i deithwyr fynd trwy’r offer diogelwch, ond mae trafferthion o hyd gyda’r peiriannau sy’n symud cesys.

Y bwriad yw fod y rheiny’n cael eu hanfon ar awyrennau eraill yn ddiweddarach.