Mae holl heddluoedd Cymru wedi cychwyn ymgyrch yr haf yn erbyn yfed a gyrru heddiw.

Mae’n ymgyrch flynyddol ac eleni mae teulu dyn ugain oed o Ferthyr Tudful laddwyd gan yrrwr meddw llynedd yn cefnogi’r gwaith.

Roedd Josh Williams yn teithio mewn car oedd yn cael ei yrru gan ddyn oedd dan ddylanwad alcohol pan gafodd ei ladd.

Plediodd y gyrrwr, Adam Pembridge yn euog o achosi ei farwolaeth a chafodd ei garcharu am bum mlynedd.

Dywedodd llysdad Josh mai’r “dylestwydd mwyaf erchyll all unrhyw riant ei gael” yw adnabod ei blentyn marw.

“Roedd modd osgoi marwolaeth Josh,” meddai Neil Parry.

Effaith Cwpan y Byd

Heddlu’r De sy’n arwain yr ymgyrch eleni ac yn ôl Dirprwy Brif Gwnstabl y Llu, Julian Williams, mae’r ateb yn syml – peidiwch yfed a gyrru.

“Mae modd osgoi’r marwolaethau yma os yw’r gyrrwr yn penderfynu peidio yfed a gyrru,” ychwanegodd gan bwysleisio hefyd bod angen cadw llygad ar rai sy’n yfed alcohol wrth wylio gemau Cwpan y Byd.

“Peidiwch â bod ofn atal rhywun mewn parti neu sy’n gwylio unrhyw un o gemau Cwpan y Byd rhag mynd i’w ceir os ydyn nhw wedi bod yn yfed.

“Mae hyn yn bwysig iawn yn enwedig gan fod nifer o’r gemau yn cael eu cynnal yn hwyr iawn.”