Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cadarnhau y bydd cyfarfod cyffredinol o’r holl glybiau sy’n aelodau o’r undeb yn digwydd ar 15 Mehefin.

Mae’r cyfarfod yn dilyn ymgyrch gan gyn prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru a beirniad ffyrnig o’r undeb, David Moffett. Mae’n honni clybiau wedi cael eu hanwybyddu gan yr undeb.

Mae 43 o geisiadau wedi dod gan glybiau sy’n aelodau o’r undeb am gyfarfod cyffredinol.

Gallai pleidlais o ddiffyg hyder gan y clybiau orfodi newid yn rheolwyr yr undeb ond mae’n debyg bod y bleidlais protest presennol yn cynnwys llai na un rhan o bump o gyfanswm aelodaeth URC.

Meddai David Moffett y bydd naw eitem yn cael ei godi yn y cyfarfod, gan gynnwys cadarnhad o strwythur cynghrair Cymru ar gyfer y tymor nesaf .

Mewn datganiad, dywedodd Undeb Rygbi Cymru ei fod “yn croesawu’r cyfle i gysylltu â chlybiau ar amrywiaeth o faterion.”

Dywedodd prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Roger Lewis : “Mae’n hanfodol bwysig i ddyfodol rygbi yng Nghymru bod y clybiau aelodau sydd ar gael i fynychu yn gwneud hynny.

” Rydym yn gwybod bod y 43 o aelod clybiau sydd wedi galw am y cyfarfod yn awyddus i drafod y materion perthnasol, ond mae angen i ni sicrhau bod yr holl glybiau yn rhan o’r drafodaeth naill ai trwy fynychu neu gyflwyno eu pleidlais drwy gyfrwng ffurflen ddirprwy.”

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yn Theatr y Dywysoges Frenhinol ym Mhort Talbot.