Bydd Morgannwg yn chwarae eu gêm gartref gyntaf yng nghystadleuaeth y T20 heno, wrth iddyn nhw groesawu Siarcod Swydd Sussex i Stadiwm Swalec.

Bydd cyfle cyntaf i gefnogwyr Morgannwg weld seren undydd India’r Gorllewin, Darren Sammy sydd wedi dod i Gymru am weddill y gystadleuaeth.

Fe fydd e’n ail-ymuno â chyn is-hyfforddwr India’r Gorllewin, Toby Radford, fu’n allweddol yn yr ymgais i’w ddenu i Gymru ar gytundeb byr.

Daeth Sammy, sy’n gapten ar India’r Gorllewin yn eu gemau ugain pelawd, i Gymru ddoe yn dilyn cyfnod yn arwain Sunrisers Hyderabad yng nghystadleuaeth yr IPL yn India a Dubai.

Adloniant

Mae e wedi addo diddanu’r dorf ar ei ymddangosiad cyntaf yng nghrys Morgannwg.

Dywedodd y gŵr o ynys St Lucia wrth Golwg360: “I’r dorf, adloniant yw popeth.

“Dyna pam maen nhw’n dod allan i wylio’r gêm, gan bo nhw’n cael eu diddanu gan y chwaraewyr, a dyna beth rwy’n bwriadu gwneud.

“I fi a’r clwb, perfformio yw popeth.

“Rwy’n cynnig perfformiadau fydd yn helpu’r clwb i ennill gemau criced. Dyna fydda i’n ceisio’i wneud yma.

“Mae’n bwysig iawn [cael dechrau da], nid yn unig i fi ond i’r clwb.

‘Braint’

“Mae’n gyfle da i gael dod i chwarae gyda chlwb lle mae mawrion fel Syr Vivian Richards wedi chwarae.

“Mae’n fraint i fi fod yma ac mae’n ddyletswydd arna i nawr i berfformio i’r clwb, fydd yn eu helpu nhw i ennill gemau criced.

“Fe ddes i o India lle mae’r lleiniau fel arfer yn fflat ac araf ac mae’r bêl yn troelli, ond yma mae’n wahanol.

“Mae’r lleiniau’r tymor yma wedi bod yn gwneud tipyn felly addasu i’r amodau yw’r peth mawr – dyna’r peth pwysig, am wn i.

“Yn feddyliol, rwy mewn sefyllfa dda.

“Rwy’n taro’r bêl yn dda a galla i barhau i wneud hynny os galla i addasu i’r amodau’n gyflym.”

Rhagflas

Ennill un a cholli un fu hanes Morgannwg yn y gystadleuaeth hyd yn hyn yn 2014, tra bod yr ymwelwyr wedi ennill dwy (yn erbyn Pantherod Swydd Middlesex a Swydd Surrey) a cholli un (yn erbyn Swydd Hampshire).

Morgannwg oedd yn fuddugol pan gyfarfu’r ddau dîm yng Nghaerdydd yn 2011 ac fe gollodd y Siarcod yn erbyn Carnegie Swydd Efrog ar eu hymweliad diwethaf â’r stadiwm ar Ddiwrnod y Ffeinals yn 2012.

Bydd batiwr Morgannwg, Murray Goodwin yn cael cyfle i wynebu ei hen sir.

Carfan 13 dyn Morgannwg: J Allenby (capten), J Rudolph, M Wallace, S Walters, M Goodwin, C Cooke, B Wright, D Sammy, G Wagg, A Salter, D Cosker, W Owen, M Hogan