Jonathan Davies
Mae canolwr Cymru, Jonathan Davies, yn barod am gêm “ffyrnig” pan fydd llawer o brif chwaraewyr Cymru yn mynd benben â’i gilydd yn Stadiwm Liberty heno.

Yn y gêm, bydd chwaraewyr carfan Cymru yn cystadlu am le ar y daith i Dde Affrica a bydd Jonathan Davies, canolwr y tîm ‘Tebygol’ yn chwarae yn erbyn ei frawd iau James, sydd ar fainc y tîm ‘Posibl’.

Mae Jonathan Davies ei fod yn gobeithio y bydd ei frawd yn gwneud yn dda:

“Wy wedi chwarae yn ei erbyn yn yr ardd gefn o’r blaen, ond mi fydd hi’n rhyfedd pan fydd o’n dod ar y cae…” meddai.

“Wy’n gobeithio y bydd o’n gwneud yn dda, ond yn aros digon pell oddi wrtha i. Mae’n gyfle gwych iddo, ac rwy’n gobeithio y bydd o’n cael y cyfle i ddangos yr hyn mae o’n gallu ei wneud.

“Wy’n meddwl bod ein mam yn gobeithio na fyddwn ni’n gwneud ffŵl o’n hunain ac yn y cael sgrap ar y cae!”

Brodyr Shingler

Ond nid dyna’r unig frwydr deuluol heno gan y bydd y brodyr Shingler – Aaron y blaenasgellwr a’r canolwr Steven – hefyd yn chwarae i dimau gwahanol.

Mae disgwyl i Warren Gatland enwi ei garfan ar gyfer y daith i Dde Affrica yn dilyn y gêm heno.

Hyfforddwr olwyr Cymru, Robert Howley, sy’n hyfforddi’r tîm Tebygol tra bod hyfforddwr blaenwyr Cymru, Robin McBryde, yn hyfforddi’r tîm Posibl.

Chwaraeodd y ddau yng ngêm dreial diwethaf carfan Cymru, ar faes Sain Helen Abertawe yn 2000.