Bradley Davies
Fe fydd y clo Bradley Davies yn colli taith Cymru i Dde Affrica yn sgil triniaeth i linyn y gâr.

Cafodd lawdriniaeth ddydd Mercher.

Bydd Davies yn ymuno â chlwb Picwns Llundain y tymor nesaf.

Davies yw’r diweddaraf o blith rhai o’r chwaraewyr amlycaf sydd wedi tynnu allan o’r daith.

Mae Sam Warburton, Leigh Halfpenny, Justin Tipuric a Scott Williams i gyd wedi’u hanafu.

Mae disgwyl i Gatland gyhoeddi carfan o 31 o chwaraewyr yn dilyn gêm dreial yn Stadiwm Liberty yn Abertawe nos Wener.

Alun-Wyn Jones fydd yn gapten ar y garfan.

Byddan nhw’n chwarae dwy gêm brawf yn ystod y daith – y gyntaf yn Durban ar Fehefin 14 a’r llall yn Nelspruit yr wythnos ganlynol.