Mae dyn 62 oed o Wrecsam wedi cael ei gyhuddo o ddau achos o ymosod yn anweddus fel rhan o Ymchwiliad Pallial.

Mae Richard Dafydd Vevar wedi’i gyhuddo o’r ddau drosedd yn erbyn bachgen rhwng 13 a 16 oed. Honnir bod y troseddau wedi’u cyflawni rhwng 1986 a 1989.

Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth ac fe fydd yn mynd gerbron Ynadon Dolgellau ar 2 Mehefin.

Mae Ymchwiliad Pallial yn cael ei gynnal gan yr Asiantaeth Droseddu Genedlaethol (NCA) i honiadau’n ymwneud ag achosion hanesyddol o gam-drin mewn cartrefi gofal plant yng ngogledd Cymru.