Mae cwmni diodydd wedi derbyn gorchymyn i dalu dirwyon a chostau o £155,000, wedi i beiriannydd ifanc farw o ganlyniad i’w methiannau nhw.

Roedd Gavin Bedford, 24 oed o Borthcawl, yn gweithio ar bibellau diwydiannol ffatri y Gerber Juice Company, pan golapsiodd y sustem am ei ben ar Fehefin 6, 2010.

Fe blediodd y cwmni’n euog i dorri Deddf Iechyd a Diogelwch mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Casnewydd.

Meddai’r Arolygydd Liam Osborne: “Roedd Gavin Bedford yn ddyn ifanc, gweithgar, ac roedd yn uchel ei barch fel peiriannydd.

“Fe gafodd ei ladd oherwydd methiant yng nghynllun corfforaethol cwmni Gerber wrth reoli’r prosiect.

“Dylai unrhyw waith dymchwel neu dynnu’n ddarnau gael ei nodi ar bapur yn fanwl,” meddai’r Arolygydd wedyn.

“Pe bai Gerber wedi rhoi mwy o feddwl i’r hyn oedd ei angen, ac wedi meddwl trwodd yr hyn oedd angen ei wneud, fe fyddai Gavin yn dal yma heddiw.”