Yr Is-Gorporal Oliver Thomas (Llun: PA)
Fe fydd gwasanaeth coffa yn cael ei gynnal heddiw i filwr o Gymro a laddwyd mewn damwain hofrennydd yn Afghanistan.

Roedd yr Is-gorporal Oliver Thomas, 26, o Aberhonddu yn un o’r pump milwr a laddwyd mewn wedi i hofrennydd blymio i’r ddaear yn nhalaith Kandahar ar Ebrill 26.

Fe fydd y gwasanaeth diolchgarwch yn cael ei gynnal ym Kington, Sir Henffordd, am 1yp heddiw.

Fe gynhaliwyd cynhebrwng preifat yn Henffordd, ddoe.