Llys y Goron Bryste
Mae dyddiad wedi cael ei bennu ar gyfer achos yn erbyn prif weithredwr Cyngor Sir Caerffili a’i ddirprwy sydd wedi eu cyhuddo o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus.

Bu’r prif weithredwr Michael O’Sullivan, 55, ei ddirprwy Nigel Barnett, 51, ynghyd a Daniel Perkins, 48, fu’n gweithio yn adran gyfreithiol y cyngor, gerbron Llys y Goron Bryste heddiw ar gyfer gwrandawiad.

Mae’r tri wedi eu cyhuddo o “ymddwyn yn fwriadol  i osgoi’r ddeddf lywodraeth leol ac atal craffu iawn ar y broses o bennu cyflog uchel swyddogion.”

Honnir bod y drosedd wedi digwydd rhwng 1 Mehefin a 10 Hydref 2012 yng Nghyngor Sir Bwrdeistref Caerffili yng Ngwent.

Yn ystod y gwrandawiad byr, fe siaradodd y tri i gadarnhau eu henwau ond ni chafodd ple ei gyflwyno.

Mae’r Barnwr Martin Picton wedi pennu dyddiad ar gyfer dechrau’r achos ar 5 Ionawr 2015.

Fe fydd y tri yn mynd gerbron Llys y Goron Bryste ar 2 Medi er mwyn cyflwyno ple.

Mae disgwyl i’r achos barhau rhwng tair a phedair wythnos.

Cafodd O’Sullivan, o Ashley Grove, Parc Penydarren, Merthyr Tudful, Barnett, o Gwrt Neuadd Wen, Aberbargoed, a  Perkins, o Tudor Crescent, Brynmawr, Glyn Ebwy, eu rhyddhau ar fechnïaeth.