Ann Maguire

Mae dyn 42 oed o Bort Talbot wedi cael ei garcharu am wyth wythnos am wneud sylwadau sarhaus am Ann Maguire, yr athrawes a gafodd ei llofruddio yn Leeds.

Mewn neges ar Twitter, awgrymodd Robert Riley y byddai wedi lladd yr holl athrawon yng Ngholeg Corpus Christi.

Postiodd Riley o Gwmafan ger Port Talbot gyfres o negeseuon hiliol oedd hefyd yn cyfeirio at “sba iechyd” Auschwitz ac yn awgrymu bod eisiau boddi babanod Moslemaidd.

Mewn neges arall, dywedodd Riley fod ganddo fe’r “geg fwyaf yr ochr yma i afon Hafren”.

‘Dim dewis’ ond carchar

Yn Llys Ynadon Abertawe heddiw, roedd wedi apelio am ddedfryd ysgafn ar ôl cyfaddef i’r cyhuddiad o anfon neges sarhaus ddifrifol trwy wefan gymdeithasol.

Ond dywedodd yr ynad nad oedd ganddi ddewis ond carcharu Riley ar unwaith.

Ychwanegodd nad oedd gan Riley “ddim ystyriaeth o gwbl am farwolaeth drasig Ann Maguire”.

Y cefndir

Cafodd Ann Maguire, oedd yn athrawes Sbaeneg ac Addysg Grefyddol, ei llofruddio yn yr ysgol ar Ebrill 28.

Wrth archwilio negeseuon Riley, cafodd rhagor o drydariadau eu darganfod oedd yn cyfeirio at awyren goll Malaysia, damwain fferi yn Ne Corea a’r chwaraewraig tenis Serena Williams.

Roedd Riley eisoes wedi derbyn gorchymyn cymunedol am drosedd arall.