Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi cymryd cyfrifoldeb am farwolaeth dyn oedrannus yn dilyn triniaeth yn Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd.

Penderfynodd crwner Sir Benfro heddiw fod Malcolm Green, 83, wedi marw o achosion naturiol ar Fehefin 30, 2012.

Wrth gofnodi rheithfarn naratif, nododd y crwner ei fod wedi marw’n sydyn o ganlyniad i glefyd y galon.

Aeth i’r ysbyty i gael trin tiwmor, ond ni chafodd y driniaeth i atal gwaedu mo’i chwblhau tan y diwrnod canlynol.

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi cydnabod fod gwendidau yn y gofal a dderbyniodd wedi cyfrannu at ei farwolaeth.

Mewn datganiad, dywedodd cyfarwyddwr meddygol Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Dr Sue Fish: “Rydyn ni’n cydnabod ar yr achlysur hwn na chafodd lefel ddelfrydol o ofal ei rhoi i Mr Green ac rwy’n cynnig fy nghydymdeimlad personol i’w deulu.

“Rydyn ni’n derbyn rheithfarn y crwner a dydy unrhyw ffaeleddau gofal ddim yn dderbyniol, ac mae bwrdd iechyd y brifysgol yn adolygu’r holl farwolaethau mewn ysbytai i weld a ellir dysgu gwersi.

“Roedd y crwner wedi cydnabod ein bod ni wedi cymryd camau i sicrhau nad yw’r ffaeleddau hyn yn digwydd eto ac mae’r gwersi hyn wedi cael eu rhannu’n helaeth ar draws fwrdd iechyd y brifysgol.”