Ann Maguire
Fe fydd dyn oedd wedi rhoi sylwadau sarhaus ar Twitter ynglyn a’r athrawes Ann  Maguire yn cael ei ddedfrydu heddiw.

Bu Robert Riley, o Dan Y Coed, Cwmafon, Port Talbot gerbron llys yn Leeds yn gynharach yr wythnos hon, lle’r oedd wedi cyfaddef un cyhuddiad o anfon neges sarhaus.

Fe fydd yn cael ei ddedfrydu yn Llys Ynadon Abertawe heddiw.

Mewn gwrandawiad blaenorol dywedodd ei gyfreithiwr, Michael Walsh, bod Riley, 42 oed, yn teimlo “cywilydd mawr” ynglŷn â’r digwyddiad ac yn ymddiheuro am achosi unrhyw loes.

Cafodd Ann Maguire, 61 oed, ei thrywanu i farwolaeth mewn dosbarth yng Ngholeg Catholig Corpus Christi yn Leeds.

Yn dilyn ei marwolaeth mae tri o bobl wedi cael eu harestio mewn digwyddiadau ar wahân am adael negeseuon sarhaus am yr athrawes ar-lein.

Mae Riley yn un o ddau ddyn sydd wedi cael eu cyhuddo tra bod trydydd person, bachgen 16 oed o Gaerdydd wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth tra bod ymchwiliad pellach yn cael eu cynnal.

Yn 2012, y myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe, Liam Stacey, oedd y person cyntaf i gael ei garcharu  am roi negeseuon sarhaus ar y we.

Cafodd Stacey ei ddedfrydu i 56 diwrnod o garchar am wneud sylwadau am y pêl-droediwr Fabrice Muamba a gafodd drawiad ar y galon tra’n chwarae’r gêm.