Harbwr porthcawl yn ystod y stormydd ym mis Ionawr
Mae disgwyl i Gyfoeth Naturiol Cymru gyhoeddi adroddiad heddiw a fydd yn gwneud 47 o argymhellion er mwyn gwella amddiffynfeydd yn erbyn llifogydd.

Hwn yw’r ail adroddiad ar lifogydd ers i stormydd daro Cymru dros y gaeaf.

Fe fydd yr adroddiad diweddaraf yn argymell sut i amddiffyn cartrefi yn wyneb risg gynyddol o lifogydd.

Ym mis Chwefror, cyhoeddodd y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Alun Davies grantiau gwerth £1 miliwn er mwyn trwsio amddiffynfeydd a gafodd eu difrodi dros y gaeaf.

Bryd hynny, cafodd rhai o gasgliadau arolwg eu cyhoeddi yn rhan gyntaf yr adroddiad.

Dywedodd yr adroddiad fod mwy na 99% o’r adeiladau a’r tir oedd mewn peryg o lifogydd wedi cael eu hamddiffyn yn llwyddiannus.

Fe allai Llywodraeth Cymru neilltuo rhagor o arian y flwyddyn nesaf, wedi i Gyfoeth Naturiol Cymru awgrymu bod llifogydd o’r fath a welwyd dros y gaeaf yn dod yn fwy cyffredin yng Nghymru.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru eisoes wedi bod yn trwsio amddiffynfeydd mewn rhai o’r ardaloedd sy’n wynebu’r risg fwyaf, gan gynnwys Llanbedr ger Harlech, Y Friog, Porthcawl ac Amroth.