Prifysgol Caerdydd lle bu Roy Thomas yn uwch-ddarlithydd yn yr Adran Economeg
Bu farw’r economegydd Roy Thomas yn ei gartref nos Wener yn 76 oed.

Roedd Roy Thomas yn byw yn y Wenfo, ger Caerdydd, a chyn iddo ymddeol, roedd yn uwch-ddarlithydd yn Adran Economeg Prifysgol Caerdydd.

Roedd Dr Ken Richards, oedd yn arfer bod yn uwch ddarlithydd ar economeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn siarad gyda’r BBC pan ddywedodd fod ” Roy yn economydd proffesiynol o fri ac yn uchel ei barch ymysg ei gyd-economegwyr.

Ychwanegodd: “Roedd yn gymeriad hoffus iawn oedd yn dangos diddordeb mewn pobl, a ro’n i’n gwerthfawrogi ei farn economeg e drwy’r amser a’i farn ar bethau eraill hefyd.”