Mae pobol sy’n gwneud cais am forgais yn wynebu proses hirach a fydd yn holi mwy o gwestiynau am eu bywydau personol, o dan reolau newydd sy’n dod i rym yfory.

Bydd rhaid i ymgeiswyr wneud mwy o waith papur, eistedd mewn cyfweliadau hirach ac ateb cwestiynau personol er mwyn cyfiawnhau beth sy’n cael ei ddweud am eu harferion gwario yn eu ceisiadau.

Nôd y rheolau newydd gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol – sy’n cael eu hadnabod fel Arolwg y Farchnad Morgais – yw sicrhau nad yw pobol yn gwario yn anghyfrifol, fel sydd wedi digwydd yn y gorffennol.

Ond mae rhai yn pryderu fod y rheolau newydd am arafu’r farchnad dai, sydd wedi bod yn mynd o nerth i nerth dros y blynyddoedd diwethaf.

Paratoi

Bydd pob benthyciwr yn gofyn cwestiynau gwahanol, ond mae disgwyl i bobol gael eu holi am eu treuliau, gofal plant, eu diddordebau a’u gwariant ar fwyd er mwyn gweld os ydyn nhw’n gymwys am forgais.

Dywedodd Andrew Montlake, cyfarwyddwr o gwmni Coreco, ei bod yn bwysig i ymgeiswyr  fod yn drylwyr:

“Byddai’n syniad i rywun ddechrau paratoi yn gynt –hyd yn oed chwe mis cyn gwneud cais.

“Dechreuwch edrych drwy eich dogfennau a phenderfynu ar gyllideb.”