Efa Gruffudd-Jones
Mae prif weithredwr yr Urdd wedi siarad am ei phenderfyniad i dderbyn MBE  gan y Frenhines am y tro cyntaf heddiw.

Roedd Efa Gruffudd Jones yn siarad ar y Post Cyntaf bore ma pan ddywedodd ei bod hi’n hapus bod ei gwaith caled hi o fewn y mudiad “wedi cael ei gydnabod yn allanol.”

Roedd Cyril Hughes, cyn gyfarwyddwr yr Urdd adeg arwisgo’r Tywysog Charles yng Nghaernarfon ym 1969, wedi lleisio pryder ar y pryd y byddai penderfyniad Efa Gruffudd Jones i dderbyn MBE yn achosi rhwyg o fewn y mudiad.

Ond meddai Efa Gruffydd Jones mai ei phenderfyniad personol hi ei hun oedd derbyn yr anrhydedd a’i bod hi’n “hapus iawn gyda’r penderfyniad”.

Ap Newydd

Roedd  Efa Gruffudd Jones yn  cael ei chyfweld gan y BBC wrth i’r Urdd lansio ap newydd.

Bydd Ap ‘Fy Ardal’, sydd ar gael am ddim, yn adnodd sy’n caniatáu i ddefnyddwyr chwilio am weithgareddau a digwyddiadau cyfrwng Cymraeg o fewn eu hardaloedd.

Meddai’r Urdd y bydd yr ap yn cynnig platfform newydd ar ffonau symudol a theclynnau technoleg sy’n cynnig gwybodaeth ar lawr gwlad i blant a phobl ifanc sy’n awyddus i fyw eu bywydau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Ond yn ogystal â digwyddiadau Urdd Gobaith Cymru ledled Cymru bydd yr ap hefyd yn cynnig gwybodaeth am ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal gan bartneriaid yr Urdd fel S4C, Clybiau Ffermwyr Ifanc, Mentrau Iaith, Mudiad Meithrin, Twf  a Merched y Wawr.

Carreg filltir

Yn ôl Efa Gruffudd Jones mae  ap yn  “garreg filltir bwysig, nid yn unig i’r Urdd, ond i’r iaith Gymraeg ac i bobl ifanc Cymru.”

Meddai: “ Dyma’r adnodd cyntaf o’i fath sy’n cynnig gwybodaeth am ddigwyddiadau trwy gyfrwng y Gymraeg i bobl ifanc ar flaenau eu bysedd.

“Fel mudiad, rydyn ni’n ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn cynnig darpariaeth fodern a ddeinamig i’n haelodau ac yn falch o allu cydweithio â sefydliadau eraill i roi’r cyfle i ieuenctid Cymru fanteisio ar weithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg.

“Trwy fuddsoddi mewn technoleg fodern, gallwn gynnig gwir gyfleoedd i bobl ifanc ddefnyddio eu Cymraeg mewn sefyllfaoedd cymdeithasol a chymunedol.”